P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 20.09.22

 

           Ymateb i lythyr y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (28.7.22) Deiseb P-06-1228

 

·         "..bron pob cyfranogwr yn teimlo bod eu rolau a'u cyfrifoldebau yn eglur drwy gydol y broses raddio a'u bod yn hyderus yn eu gallu i'w cyflawni.." 

Wrth gwrs bod hwn yn wir achos pobl broffesiynol ydyn ni sydd eisiau y gorau i'n dysgwyr. Roedd dyletswydd arnom i sicrhau bod ein rolau a'n cyfrifoldebau yn eglur a'n bod yn hyderus yn ein gallu i'w cyflawni  er mwyn sicrhau llwyddiant haeddianol i'n disgyblion ond roedd hyn ar draul ein hiechyd corfforol a meddyliol a'n bywyd teuluol, wrth i ni orfod neilltuo cyfnodau beichus ychwanegol er mwyn cyrraedd y nodau yma. Awgryma'r Gweinidog  bod popeth yn fêl i gyd.

 

·         "tua 50% yn hapus ar y cyfan bod yr hyfforddiant a ddarparwyd gan CBAC a Chymwysterau cymru yn glir ac yn ddefnyddiol"...

Beth am y 50% arall a oedd yn anfodlon felly?  Oni ddylai'r canran fod yn llawer uwch - dylai addysgwyr ddangos ffydd a bodlonrwydd yn y cyrff proffesiynol sydd i fod i arwain y ffordd?  Ydy'r Gweinidog wir yn ymfalchïo yn y canran israddol yma? Neu a ydyw ond yn ceisio crafu unrhyw ffigyrau pitw i osod spin cadarnhaol ar y sefyllfa?

 

·         Sentiment nawddoglyd oedd i'r Gweinidog deimlo ei fod yn gorfod "ail-esbonio'r dull a ddefnyddiwyd yng Nghymru". Ni welodd athrawon  a darlithwyr Cymru geiniog o'r £19.2 miliwn a neilltuwyd yn y cyfnod hwn ar gyfer y broses raddio.  A oedd yr arian yma wedi cael ei wario yn y ffordd gywir/orau? A'r staff a wnaeth yr holl waith yn derbyn dim, dim hyd yn oed yn nhermau 'amser' er mwyn cwblhau y gwaith.

 

·         "cynlluniwyd y model yn fwriadol i alluogi i athrawon a darlithwyr i ymgymryd â'r rhan fwyaf o'u rôl yn ystod y tymor."

Sylwch ar y defnydd o'r 'rhan fwyaf', sy'n golygu BOD staff WEDI gorfod aberthu rhywfaint o'u hamser gwyliau tu allan i oriau'r tymor.

"Roedd hon yn ymdrech ymwybodol i gadw gwyliau'r haf yn glir".

Ymdrech efallai ond nid garanti llwyr.  A beth am y gwyliau Pasg a Sulgwyn (heb sôn am benwythnosau di-ri) pan gollodd staff amser prin gyda'u teuluoedd, o ganlyniad i'r broses raddio? Roedd cryn dipyn o staff yn gorfod gweithio hefyd yn ystod y gwyliau haf hwnnw yn ymateb i apeliadau graddio gan ddisgyblion a rhieni.

 

Nid yw ymateb Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ddigonol. Mae'n glir ei fod yn ochri gyda Chymwysterau Cymru a CBAC. Roedden ni fel corff o athrawon a darlithwyr yng Nghymru yn credu y byddai Llywodraeth Cymru Sosialaidd yn cefnogi ei gweithle addysg fel Llywodraeth yr Alban. Ynghyd â'r broses raddio erchyll,  a gorfod wyneb heriau Covid, y Cwricwlwm i Gymru a'r Ddeddf ADY newydd i gyd ar yr un pryd, rydyn ni yn gyflym yn colli ffydd.  Byddai iawndal/bonws cyfwerth ag un yr Alban yn mynd cam tuag at adfer ein hyder.